
Sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Medi 2002. Hwyluswyr dwyieithog o wahanol gefndiroedd gwaith sy'n gweithredu yng Ngwynedd neu/a Chonwy ydan ni. Rydym wedi ein hyfforddi mewn dulliau hwyluso ac yn hyrwyddo cyfranogaeth a datblygiad cynaladwy drwy gefnogi a datblygu sgiliau'n gilydd.
Ym 2006 cytunwyd ar y nod ac amcanion canlynol.
Nod:
Byddem yn sicrhau cyfranogaeth lawn y gymuned mewn penderfyniadau a wneir yng Ngwynedd a gwell cydweithredu rhwng gwahanol randdeiliaid drwy hybu prosesau cyfranogol.
Yn ystod y 5 mlynedd nesaf byddem yn:
Mae aelodaeth yn agored i bawb sydd yn cytuno â nod y Rhwydwaith ac sydd wedi mynychu cwrs cychwynnol y Rhwydwaith mewn hwyluso neu hyfforddiant cyffelyb.
Mudiad cydweithredol ydan ni sydd yn dibynnu ar weithgarwch pawb i'n cynnal. Mae gan bob aelod bethau gwahanol i'w cynnig a mae cynnal y Rhwydwaith yn gyfrifoldeb ychwanegol ar ben swyddi neu waith beunyddiol i bawb. Yn gyffredinol dyma'r hyn a ddisgwylir gan bob aelod:
Nid oes tâl aelodaeth ar hyn o bryd, ond bydd prisiau gostyngol ar gyfer hyfforddiant yn ddibynnol ar eich cyfraniad gwirfoddol yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Rydym yn tueddu i gyfarfod wyneb yn wyneb 3 i 4 gwaith y flwyddyn a mae tîm gwahanol o aelodau yn trefnu rhain bob tro. Cynhelir y cyfarfod blynyddol yn y gaeaf.
Safle Yahoo y Rhwydwaith ar y we yw'r prif gyfrwng cyfathrebu.